Salmau 68
Beibl William Morgan
I’r Pencerdd, Salm neu Gân Dafydd.
68 Cyfoded Duw, gwasgarer ei elynion: a ffoed ei gaseion o’i flaen ef. 2 Chweli hwynt fel chwalu mwg: fel y tawdd cwyr wrth y tân, difether y rhai annuwiol o flaen Duw. 3 Ond llawenycher y rhai cyfiawn, a gorfoleddant gerbron Duw; a byddant hyfryd o lawenydd. 4 Cenwch i Dduw, canmolwch ei enw: dyrchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd, a’i enw yn JAH, a gorfoleddwch ger ei fron ef. 5 Tad yr amddifaid, a Barnwr y gweddwon, yw Duw, yn ei breswylfa sanctaidd. 6 Duw sydd yn gosod yr unig mewn teulu: yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau; ond y rhai cyndyn a breswyliant grastir. 7 Pan aethost, O Dduw, o flaen dy bobl, pan gerddaist trwy yr anialwch; Sela: 8 Y ddaear a grynodd, a’r nefoedd a ddiferasant o flaen Duw: Sinai yntau a grynodd o flaen Duw, sef Duw Israel. 9 Dihidlaist law graslon, O Dduw, ar dy etifeddiaeth: ti a’i gwrteithiaist wedi ei blino. 10 Dy gynulleidfa di sydd yn trigo ynddi: yn dy ddaioni, O Dduw, yr wyt yn darparu i’r tlawd. 11 Yr Arglwydd a roddes y gair; mawr oedd mintai y rhai a’i pregethent. 12 Brenhinoedd byddinog a ffoesant ar ffrwst: a’r hon a drigodd yn tŷ, a rannodd yr ysbail. 13 Er gorwedd ohonoch ymysg y crochanau, byddwch fel esgyll colomen wedi eu gwisgo ag arian, a’i hadenydd ag aur melyn. 14 Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd ynddi, yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon. 15 Mynydd Duw sydd fel mynydd Basan; yn fynydd cribog fel mynydd Basan. 16 Paham y llemwch, chwi fynyddoedd cribog? dyma y mynydd a chwenychodd Duw ei breswylio; ie, preswylia yr Arglwydd ynddo byth. 17 Cerbydau Duw ydynt ugain mil, sef miloedd o angylion: yr Arglwydd sydd yn eu plith, megis yn Sinai yn y cysegr. 18 Dyrchefaist i’r uchelder, caethgludaist gaethiwed: derbyniaist roddion i ddynion; ie, i’r rhai cyndyn hefyd, fel y preswyliai yr Arglwydd Dduw yn eu plith. 19 Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a’n llwytha beunydd â daioni; sef Duw ein hiachawdwriaeth. Sela. 20 Ein Duw ni sydd Dduw iachawdwriaeth; ac i’r Arglwydd Dduw y perthyn diangfâu rhag marwolaeth. 21 Duw yn ddiau a archolla ben ei elynion; a chopa walltog yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamweddau. 22 Dywedodd yr Arglwydd, Dygaf fy mhobl drachefn o Basan, dygaf hwynt drachefn o ddyfnder y môr; 23 Fel y trocher dy droed yng ngwaed dy elynion, a thafod dy gŵn yn yr unrhyw. 24 Gwelsant dy fynediad, O Dduw; mynediad fy Nuw, fy Mrenin, yn y cysegr. 25 Y cantorion a aethant o’r blaen, a’r cerddorion ar ôl; yn eu mysg yr oedd y llancesau yn canu tympanau. 26 Bendithiwch Dduw yn y cynulleidfaoedd, sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel. 27 Yno y mae Benjamin fychan â’u llywydd, tywysogion Jwda â’u cynulleidfa; tywysogion Sabulon, a thywysogion Nafftali. 28 Dy Dduw a orchmynnodd dy nerth: cadarnha, O Dduw, yr hyn a wnaethost ynom ni. 29 Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg er mwyn dy deml yn Jerwsalem. 30 Cerydda dyrfa y gwaywffyn, cynulleidfa y gwrdd deirw, gyda lloi y bobl, fel y delont yn ostyngedig â darnau arian: gwasgar y bobl sydd dda ganddynt ryfel. 31 Pendefigion a ddeuant o’r Aifft; Ethiopia a estyn ei dwylo yn brysur at Dduw. 32 Teyrnasoedd y ddaear, cenwch i Dduw; canmolwch yr Arglwydd: Sela: 33 Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd, y rhai oedd erioed: wele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef nerthol. 34 Rhoddwch i Dduw gadernid: ei oruchelder sydd ar Israel, a’i nerth yn yr wybrennau. 35 Ofnadwy wyt, O Dduw, o’th gysegr: Duw Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i’r bobl. Bendigedig fyddo Duw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.