Ioan 6:53-58
Beibl William Morgan
53 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni fwytewch gnawd Mab y dyn, ac onid yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch. 54 Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragwyddol: ac myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf. 55 Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wir, a’m gwaed i sydd ddiod yn wir. 56 Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau. 57 Fel yr anfonodd y Tad byw fi, ac yr ydwyf fi yn byw trwy’r Tad: felly yr hwn sydd yn fy mwyta i, yntau a fydd byw trwof fi. 58 Dyma’r bara a ddaeth i waered o’r nef: nid megis y bwytaodd eich tadau chwi y manna, ac y buont feirw. Y neb sydd yn bwyta’r bara hwn, a fydd byw yn dragywydd.
Read full chapterWilliam Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.