Jeremeia 38
Beibl William Morgan
38 Yna Seffatia mab Mattan, a Gedaleia mab Pasur, a Jucal mab Selemeia, a Phasur mab Malcheia, a glywsant y geiriau a draethasai Jeremeia wrth yr holl bobl, gan ddywedyd, 2 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Yr hwn a arhoso yn y ddinas hon, a fydd farw trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint: ond y neb a elo allan at y Caldeaid, a fydd byw; canys ei einioes fydd yn ysglyfaeth iddo, a byw fydd. 3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y ddinas hon a roddir yn ddiau yn llaw llu brenin Babilon, yr hwn a’i hennill hi. 4 Yna y tywysogion a ddywedasant wrth y brenin, Rhodder, atolwg, y gŵr hwn i farwolaeth: oblegid fel hyn y mae efe yn gwanhau dwylo’r rhyfelwyr a adawyd yn y ddinas hon, a dwylo’r holl bobl, wrth ddywedyd wrthynt yn ôl y geiriau hyn: oherwydd nid yw y gŵr hwn yn ceisio llwyddiant i’r bobl hyn, ond niwed. 5 A’r brenin Sedeceia a ddywedodd, Wele ef yn eich llaw chwi: canys nid yw y brenin ŵr a ddichon ddim yn eich erbyn chwi. 6 Yna hwy a gymerasant Jeremeia, ac a’i bwriasant ef i ddaeardy Malcheia mab Hammelech, yr hwn oedd yng nghyntedd y carchardy: a hwy a ollyngasant Jeremeia i waered wrth raffau. Ac nid oedd dwfr yn y daeardy, ond tom: felly Jeremeia a lynodd yn y dom.
7 A phan glybu Ebedmelech yr Ethiopiad, un o’r ystafellyddion yr hwn oedd yn nhŷ y brenin, iddynt hwy roddi Jeremeia yn y daeardy, (a’r brenin yn eistedd ym mhorth Benjamin,) 8 Ebedmelech a aeth allan o dŷ y brenin, ac a lefarodd wrth y brenin, gan ddywedyd, 9 O fy arglwydd frenin, drwg y gwnaeth y gwŷr hyn yng nghwbl ag a wnaethant i Jeremeia y proffwyd, yr hwn a fwriasant hwy i’r daeardy; ac efe a fydd farw o newyn yn y fan lle y mae, oherwydd nid oes bara mwyach yn y ddinas. 10 Yna y brenin a orchmynnodd i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Cymer oddi yma ddengwr ar hugain gyda thi, a chyfod Jeremeia y proffwyd o’r daeardy cyn ei farw. 11 Felly Ebedmelech a gymerodd y gwŷr gydag ef, ac a aeth i dŷ y brenin dan y trysordy, ac a gymerodd oddi yno hen garpiau, a hen bwdr fratiau, ac a’u gollyngodd i waered at Jeremeia i’r daeardy wrth raffau. 12 Ac Ebedmelech yr Ethiopiad a ddywedodd wrth Jeremeia, Gosod yn awr yr hen garpiau a’r pwdr fratiau hyn dan dy geseiliau oddi tan y rhaffau. A Jeremeia a wnaeth felly. 13 Felly hwy a dynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau, ac a’i codasant ef o’r daeardy; a Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.
14 Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a gymerodd Jeremeia y proffwyd ato i’r trydydd cyntedd, yr hwn sydd yn nhŷ yr Arglwydd; a’r brenin a ddywedodd wrth Jeremeia, Mi a ofynnaf i ti beth: na chela ddim oddi wrthyf fi. 15 A Jeremeia a ddywedodd wrth Sedeceia, Os mynegaf i ti, oni roddi di fi i farwolaeth? ac os rhoddaf i ti gyngor, oni wrandewi di arnaf? 16 Felly y brenin Sedeceia a dyngodd wrth Jeremeia yn gyfrinachol, gan ddywedyd, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth i ni yr enaid hwn, ni roddaf fi di i farwolaeth, ac ni roddaf di yn llaw y gwŷr hyn sydd yn ceisio dy einioes. 17 Yna y dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw y lluoedd, Duw Israel; Os gan fyned yr ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y bydd dy enaid fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; a thithau a fyddi fyw, ti a’th deulu. 18 Ond onid ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y ddinas hon a roddir i law y Caldeaid, a hwy a’i llosgant hi â thân, ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt. 19 A’r brenin Sedeceia a ddywedodd wrth Jeremeia, Yr ydwyf fi yn ofni yr Iddewon a giliasant at y Caldeaid, rhag iddynt hwy fy rhoddi i yn eu llaw hwynt, ac i’r rhai hynny fy ngwatwar. 20 A Jeremeia a ddywedodd, Ni roddant ddim: gwrando, atolwg, ar lais yr Arglwydd, yr hwn yr ydwyf fi yn ei draethu i ti; felly y bydd yn dda i ti, a’th enaid a fydd byw. 21 Ond os gwrthodi fyned allan, dyma y gair a ddangosodd yr Arglwydd i mi: 22 Ac wele, yr holl wragedd, y rhai a adawyd yn nhŷ brenin Jwda, a ddygir allan at dywysogion brenin Babilon; a hwy a ddywedant, Dy gyfeillion a’th hudasant, ac a’th orchfygasant; dy draed a lynasant yn y dom, a hwythau a droesant yn eu hôl. 23 Felly hwy a ddygant allan dy holl wragedd a’th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt; canys â llaw brenin Babilon y’th ddelir; a’r ddinas hon a losgi â thân.
24 Yna y dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia, Na chaffed neb wybod y geiriau hyn, ac ni’th roddir i farwolaeth. 25 Ond os y tywysogion a glywant i mi ymddiddan â thi, ac os deuant atat ti, a dywedyd wrthyt, Mynega yn awr i ni beth a draethaist ti wrth y brenin; na chela oddi wrthym ni, ac ni roddwn ni mohonot ti i farwolaeth; a pha beth a draethodd y brenin wrthyt tithau: 26 Yna dywed wrthynt, Myfi a weddïais yn ostyngedig gerbron y brenin, na yrrai efe fi drachefn i dŷ Jonathan, i farw yno. 27 Yna yr holl dywysogion a ddaethant at Jeremeia, ac a’i holasant ef: ac efe a fynegodd iddynt yn ôl yr holl eiriau hyn, y rhai a orchmynasai y brenin: felly hwy a beidiasant ag ymddiddan ag ef, canys ni chafwyd clywed y peth. 28 A Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy hyd y dydd yr enillwyd Jerwsalem; ac yno yr oedd efe pan enillwyd Jerwsalem.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.