Jeremeia 30
Beibl William Morgan
30 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, 2 Fel hyn y llefarodd yr Arglwydd, Duw Israel, gan ddywedyd, Ysgrifenna i ti yr holl eiriau a leferais i wrthyt mewn llyfr. 3 Canys wele y ddyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd, i mi ddychwelyd caethiwed fy mhobl Israel a Jwda, medd yr Arglwydd: a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’r wlad a roddais i’w tadau, a hwy a’i meddiannant hi.
4 Dyma hefyd y geiriau a lefarodd yr Arglwydd am Israel, ac am Jwda: 5 Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd; Llef dychryn a glywsom ni, ofn, ac nid heddwch. 6 Gofynnwch yr awr hon, ac edrychwch a esgora gwryw; paham yr ydwyf fi yn gweled pob gŵr â’i ddwylo ar ei lwynau, fel gwraig wrth esgor, ac y trowyd yr holl wynebau yn lesni? 7 Och! canys mawr yw y dydd hwn, heb gyffelyb iddo: amser blinder yw hwn i Jacob; ond efe a waredir ohono. 8 Canys y dydd hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y torraf fi ei iau ef oddi ar dy war di, a mi a ddrylliaf dy rwymau, ac ni chaiff dieithriaid wneuthur iddo ef eu gwasanaethu hwynt mwyach. 9 Eithr hwy a wasanaethant yr Arglwydd eu Duw, a Dafydd eu brenin, yr hwn a godaf fi iddynt.
10 Ac nac ofna di, O fy ngwas Jacob, medd yr Arglwydd; ac na frawycha di, O Israel: canys wele, mi a’th achubaf di o bell, a’th had o dir eu caethiwed; a Jacob a ddychwel, ac a orffwys, ac a gaiff lonydd, ac ni bydd a’i dychryno. 11 Canys yr ydwyf fi gyda thi, medd yr Arglwydd, i’th achub di: er i mi wneuthur pen am yr holl genhedloedd lle y’th wasgerais, eto ni wnaf ben amdanat ti; eithr mi a’th geryddaf di mewn barn, ac ni’th adawaf yn gwbl ddigerydd. 12 Oblegid fel hyn y dywed yr Arglwydd; Anafus yw dy ysictod, a dolurus yw dy archoll. 13 Nid oes a ddadleuo dy gŵyn, fel y’th iachaer; nid oes feddyginiaeth iechyd i ti. 14 Dy holl gariadau a’th anghofiasant: ni cheisiant mohonot ti; canys mi a’th drewais â dyrnod gelyn, sef â chosbedigaeth y creulon, am amlder dy anwiredd: oblegid dy bechodau a amlhasant. 15 Paham y bloeddi am dy ysictod? anafus yw dy ddolur, gan amlder dy anwiredd: oherwydd amlhau o’th bechodau y gwneuthum hyn i ti. 16 Am hynny y rhai oll a’th ysant a ysir; a chwbl o’th holl elynion a ânt i gaethiwed; a’th anrheithwyr di a fyddant yn anrhaith, a’th holl ysbeilwyr a roddaf fi yn ysbail. 17 Canys myfi a roddaf iechyd i ti, ac a’th iachâf di o’th friwiau, medd yr Arglwydd; oblegid hwy a’th alwasant di, Yr hon a yrrwyd ymaith, gan ddywedyd, Dyma Seion, yr hon nid oes neb yn ei cheisio.
18 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, myfi a ddychwelaf gaethiwed pebyll Jacob, ac a gymeraf drugaredd ar ei anheddau ef; a’r ddinas a adeiledir ar ei charnedd, a’r llys a erys yn ôl ei arfer. 19 A moliant a â allan ohonynt, a llais rhai yn gorfoleddu: a mi a’u hamlhaf hwynt, ac ni byddant anaml; a mi a’u hanrhydeddaf hwynt, ac ni byddant wael. 20 Eu meibion hefyd fydd megis cynt, a’u cynulleidfa a sicrheir ger fy mron; a mi a ymwelaf â’u holl orthrymwyr hwynt. 21 A’u pendefigion fydd ohonynt eu hun, a’u llywiawdwr a ddaw allan o’u mysg eu hun; a mi a baraf iddo nesáu, ac efe a ddaw ataf: canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i nesáu ataf fi? medd yr Arglwydd. 22 A chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw i chwithau. 23 Wele gorwynt yr Arglwydd yn myned allan mewn dicter, corwynt parhaus; ar ben annuwiolion yr erys. 24 Ni ddychwel digofaint llidiog yr Arglwydd, nes iddo ei wneuthur, ac nes iddo gyflawni meddyliau ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.