Hosea 2
Beibl William Morgan
2 Dywedwch wrth eich brodyr, Ammi; ac wrth eich chwiorydd, Rwhama. 2 Dadleuwch â’ch mam, dadleuwch: canys nid fy ngwraig yw hi, ac nid ei gŵr hi ydwyf finnau: bwried hithau ymaith ei phuteindra o’i golwg, a’i godineb oddi rhwng ei bronnau; 3 Rhag i mi ei diosg hi yn noeth lymun, a’i gosod fel y dydd y ganed hi, a’i gwneuthur fel anialwch, a’i gosod fel tir diffaith, a’i lladd â syched. 4 Ac ar ei phlant ni chymeraf drugaredd; am eu bod yn blant godineb. 5 Canys eu mam hwynt a buteiniodd; gwaradwyddus y gwnaeth yr hon a’u hymddûg hwynt: canys dywedodd hi, Af ar ôl fy nghariadau, y rhai sydd yn rhoi fy mara a’m dwfr, fy ngwlân a’m llin, fy olew a’m diodydd.
6 Am hynny wele, mi a gaeaf i fyny dy ffordd di â drain, ac a furiaf fur, fel na chaffo hi ei llwybrau. 7 A hi a ddilyn ei chariadau, ond nis goddiwedd hwynt; a hi a’u cais hwynt, ond nis caiff: yna y dywed, Af a dychwelaf at fy ngŵr cyntaf; canys gwell oedd arnaf fi yna nag yr awr hon. 8 Ac ni wyddai hi mai myfi a roddais iddi ŷd, a gwin, ac olew, ac a amlheais ei harian a’i haur, y rhai a ddarparasant hwy i Baal. 9 Am hynny y dychwelaf, a chymeraf fy ŷd yn ei amser, a’m gwin yn ei dymor; a dygaf ymaith fy ngwlân a’m llin a guddiai ei noethni hi. 10 A mi a ddatguddiaf bellach ei brynti hi yng ngolwg ei chariadau; ac nis gwared neb hi o’m llaw i. 11 Gwnaf hefyd i’w holl orfoledd hi, ei gwyliau, ei newyddleuadau, a’i Sabothau, a’i holl uchel wyliau, beidio. 12 A mi a anrheithiaf ei gwinwydd hi a’i ffigyswydd, am y rhai y dywedodd, Dyma fy ngwobrwyon y rhai a roddodd fy nghariadau i mi; ac mi a’u gosodaf yn goedwig, a bwystfilod y maes a’u difa hwynt. 13 A mi a ymwelaf â hi am ddyddiau Baalim, yn y rhai y llosgodd hi arogl‐darth iddynt, ac y gwisgodd ei chlustfodrwyau a’i thlysau, ac yr aeth ar ôl ei chariadau, ac yr anghofiodd fi, medd yr Arglwydd.
14 Am hynny wele, mi a’i denaf hi, ac a’i dygaf i’r anialwch, ac a ddywedaf wrth fodd ei chalon. 15 A mi a roddaf iddi ei gwinllannoedd o’r fan honno, a dyffryn Achor yn ddrws gobaith; ac yno y cân hi, fel yn nyddiau ei hieuenctid, ac megis yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aifft. 16 Y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y’m gelwi Issi, ac ni’m gelwi mwyach Baali. 17 Canys bwriaf enwau Baalim allan o’i genau hi, ac nis coffeir hwy mwyach wrth eu henwau. 18 A’r dydd hwnnw y gwnaf amod drostynt ag anifeiliaid y maes, ac ag ehediaid y nefoedd, ac ag ymlusgiaid y ddaear; a’r bwa, a’r cleddyf, a’r rhyfel, a dorraf ymaith o’r ddaear, a gwnaf iddynt orwedd yn ddiogel. 19 A mi a’th ddyweddïaf â mi fy hun yn dragywydd; ie, dyweddïaf di â mi fy hun mewn cyfiawnder, ac mewn barn, ac mewn tiriondeb, ac mewn trugareddau. 20 A dyweddïaf di â mi mewn ffyddlondeb; a thi a adnabyddi yr Arglwydd. 21 A’r dydd hwnnw y gwrandawaf, medd yr Arglwydd, ar y nefoedd y gwrandawaf; a hwythau a wrandawant ar y ddaear; 22 A’r ddaear a wrendy ar yr ŷd, a’r gwin, a’r olew; a hwythau a wrandawant ar Jesreel. 23 A mi a’i heuaf hi i mi fy hun yn y ddaear, ac a drugarhaf wrth yr hon ni chawsai drugaredd; ac a ddywedaf wrth y rhai nid oedd bobl i mi, Fy mhobl wyt ti: a hwythau a ddywedant, O fy Nuw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.