Exodus 3
Beibl William Morgan
3 A Moses oedd yn bugeilio defaid Jethro ei chwegrwn, offeiriad Midian: ac efe a yrrodd y praidd o’r tu cefn i’r anialwch, ac a ddaeth i fynydd Duw, Horeb. 2 Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn fflam dân o ganol perth: ac efe a edrychodd, ac wele y berth yn llosgi yn dân, a’r berth heb ei difa. 3 A dywedodd Moses, Mi a droaf yn awr, ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon, paham nad yw’r berth wedi llosgi. 4 Pan welodd yr Arglwydd ei fod efe yn troi i edrych, Duw a alwodd arno o ganol y berth, ac a ddywedodd, Moses, Moses. A dywedodd yntau, Wele fi. 5 Ac efe a ddywedodd, Na nesâ yma: diosg dy esgidiau oddi am dy draed; oherwydd y lle yr wyt ti yn sefyll arno sydd ddaear sanctaidd. 6 Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw dy dad, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses a guddiodd ei wyneb; oblegid ofni yr ydoedd edrych ar Dduw.
7 A dywedodd yr Arglwydd, Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aifft, a’u gwaedd o achos eu meistriaid gwaith a glywais; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau. 8 A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Eifftiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid. 9 Ac yn awr wele, gwaedd meibion Israel a ddaeth ataf fi; a hefyd mi a welais y gorthrymder â’r hwn y gorthrymodd yr Eifftiaid hwynt. 10 Tyred gan hynny yn awr, a mi a’th anfonaf at Pharo; fel y dygech fy mhobl, plant Israel, allan o’r Aifft.
11 A dywedodd Moses wrth Dduw, Pwy ydwyf fi, fel yr awn i at Pharo, ac y dygwn blant Israel allan o’r Aifft? 12 Dywedodd yntau, Diau y byddaf gyda thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a’th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o’r Aifft, chwi a wasanaethwch Dduw ar y mynydd hwn. 13 A dywedodd Moses wrth Dduw, Wele, pan ddelwyf fi at feibion Israel, a dywedyd wrthynt, Duw eich tadau a’m hanfonodd atoch; os dywedant wrthyf, Beth yw ei enw ef? beth a ddywedaf fi wrthynt? 14 A Duw a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel; YDWYF a’m hanfonodd atoch. 15 A Duw a ddywedodd drachefn wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob, a’m hanfonodd atoch: dyma fy enw byth, a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth. 16 Dos a chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abraham, Isaac, a Jacob, a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd, Gan ymweled yr ymwelais â chwi, a gwelais yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft. 17 A dywedais, Mi a’ch dygaf chwi i fyny o adfyd yr Aifft, i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl. 18 A hwy a wrandawant ar dy lais; a thi a ddeui, ti a henuriaid Israel, at frenin yr Aifft, a dywedwch wrtho, Arglwydd Dduw yr Hebreaid a gyfarfu â ni; ac yn awr gad i ni fyned, atolwg, daith tri diwrnod i’r anialwch, fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw.
19 A mi a wn na edy brenin yr Aifft i chwi fyned, ond mewn llaw gadarn. 20 Am hynny mi a estynnaf fy llaw, ac a drawaf yr Aifft â’m holl ryfeddodau, y rhai a wnaf yn ei chanol; ac wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymaith. 21 A rhoddaf hawddgarwch i’r bobl hyn yng ngolwg yr Eifftiaid: a bydd, pan eloch, nad eloch yn waglaw; 22 Ond pob gwraig a fenthycia gan ei chymdoges, a chan yr hon fyddo yn cytal â hi, ddodrefn arian, a dodrefn aur, a gwisgoedd: a chwi a’u gosodwch hwynt am eich meibion ac am eich merched; ac a ysbeiliwch yr Eifftiaid.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.