Daniel 6
Beibl William Morgan
6 Gwelodd Dareius yn dda osod ar y deyrnas chwe ugain o dywysogion, i fod ar yr holl deyrnas; 2 Ac arnynt hwy yr oedd tri rhaglaw, y rhai yr oedd Daniel yn bennaf ohonynt, i’r rhai y rhoddai y tywysogion gyfrif, fel na byddai y brenin mewn colled. 3 Yna y Daniel hwn oedd yn rhagori ar y rhaglawiaid a’r tywysogion, oherwydd bod ysbryd rhagorol ynddo ef: a’r brenin a feddyliodd ei osod ef ar yr holl deyrnas.
4 Yna y rhaglawiaid a’r tywysogion oedd yn ceisio cael achlysur yn erbyn Daniel o ran y frenhiniaeth: ond ni fedrent gael un achos na bai; oherwydd ffyddlon oedd efe, fel na chaed ynddo nac amryfusedd na bai. 5 Yna y dywedodd y gwŷr hyn, Ni chawn yn erbyn y Daniel hwn ddim achlysur, oni chawn beth o ran cyfraith ei Dduw yn ei erbyn ef. 6 Yna y rhaglawiaid a’r tywysogion hyn a aethant ynghyd at y brenin, ac a ddywedasant wrtho fel hyn; Dareius frenin, bydd fyw byth. 7 Holl raglawiaid y deyrnas, y swyddogion, a’r tywysogion, y cynghoriaid, a’r dugiaid, a ymgyngorasant am osod deddf frenhinol, a chadarnhau gorchymyn, fod bwrw i ffau y llewod pwy bynnag a archai arch gan un Duw na dyn dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin. 8 Yr awr hon, O frenin, sicrha y gorchymyn, a selia yr ysgrifen, fel nas newidier; yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid, yr hon ni newidir. 9 Oherwydd hyn y seliodd y brenin Dareius yr ysgrifen a’r gorchymyn.
10 Yna Daniel, pan wybu selio yr ysgrifen, a aeth i’w dŷ, a’i ffenestri yn agored yn ei ystafell tua Jerwsalem; tair gwaith yn y dydd y gostyngai efe ar ei liniau, ac y gweddïai, ac y cyffesai o flaen ei Dduw, megis y gwnâi efe cyn hynny. 11 Yna y gwŷr hyn a ddaethant ynghyd, ac a gawsant Daniel yn gweddïo ac yn ymbil o flaen ei Dduw. 12 Yna y nesasant, ac y dywedasant o flaen y brenin am orchymyn y brenin; Oni seliaist ti orchymyn, mai i ffau y llewod y bwrid pa ddyn bynnag a ofynnai gan un Duw na dyn ddim dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin? Atebodd y brenin, a dywedodd, Y mae y peth yn wir, yn ôl cyfraith y Mediaid a’r Persiaid, yr hon ni newidir. 13 Yna yr atebasant ac y dywedasant o flaen y brenin, Y Daniel, yr hwn sydd o feibion caethglud Jwda, ni wnaeth gyfrif ohonot ti, frenin, nac o’r gorchymyn a seliaist, eithr tair gwaith yn y dydd y mae yn gweddïo ei weddi. 14 Yna y brenin, pan glybu y gair hwn, a aeth yn ddrwg iawn ganddo, ac a roes ei fryd gyda Daniel ar ei waredu ef: ac a fu hyd fachludiad haul yn ceisio ei achub ef. 15 Yna y gwŷr hynny a ddaethant ynghyd at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwybydd, frenin, mai cyfraith y Mediaid a’r Persiaid yw, na newidier un gorchymyn na deddf a osodo y brenin. 16 Yna yr archodd y brenin, a hwy a ddygasant Daniel, ac a’i bwriasant i ffau y llewod. Yna y brenin a lefarodd ac a ddywedodd wrth Daniel, Dy Dduw, yr hwn yr ydwyt yn ei wasanaethu yn wastad, efe a’th achub di. 17 A dygwyd carreg ac a’i gosodwyd ar enau y ffau; a’r brenin a’i seliodd hi â’i sêl ei hun, ac â sêl ei dywysogion, fel na newidid yr ewyllys am Daniel.
18 Yna yr aeth y brenin i’w lys, ac a fu y noson honno heb fwyd: ac ni adawodd ddwyn difyrrwch o’i flaen; ei gwsg hefyd a giliodd oddi wrtho. 19 Yna y cododd y brenin yn fore iawn ar y wawrddydd, ac a aeth ar frys at ffau y llewod. 20 A phan nesaodd efe at y ffau, efe a lefodd ar Daniel â llais trist. Llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Daniel, gwasanaethwr y Duw byw, a all dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ei wasanaethu yn wastad, dy gadw di rhag y llewod? 21 Yna y dywedodd Daniel wrth y brenin, O frenin, bydd fyw byth. 22 Fy Nuw a anfonodd ei angel, ac a gaeodd safnau y llewod, fel na wnaethant i mi niwed: oherwydd puredd a gaed ynof ger ei fron ef; a hefyd ni wneuthum niwed o’th flaen dithau, frenin. 23 Yna y brenin fu dda iawn ganddo o’i achos ef, ac a archodd gyfodi Daniel allan o’r ffau. Yna y codwyd Daniel o’r ffau; ac ni chaed niwed arno, oherwydd credu ohono yn ei Dduw.
24 Yna y gorchmynnodd y brenin, a hwy a ddygasant y gwŷr hynny a gyhuddasent Daniel, ac a’u bwriasant i ffau y llewod, hwy, a’u plant, a’u gwragedd; ac ni ddaethant i waelod y ffau hyd oni orchfygodd y llewod hwynt, a dryllio eu holl esgyrn.
25 Yna yr ysgrifennodd y brenin Dareius at y bobloedd, at y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll, y rhai oedd yn trigo yn yr holl ddaear; Heddwch a amlhaer i chwi. 26 Gennyf fi y gosodwyd cyfraith, ar fod trwy holl lywodraeth fy nheyrnas, i bawb grynu ac ofni rhag Duw Daniel: oherwydd efe sydd Dduw byw, ac yn parhau byth; a’i frenhiniaeth ef yw yr hon ni ddifethir, a’i lywodraeth fydd hyd y diwedd. 27 Y mae yn gwaredu ac yn achub, ac yn gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau yn y nefoedd ac ar y ddaear; yr hwn a waredodd Daniel o feddiant y llewod. 28 A’r Daniel hwn a lwyddodd yn nheyrnasiad Dareius, ac yn nheyrnasiad Cyrus y Persiad.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.