Daniel 4
Beibl William Morgan
4 Nebuchodonosor frenin at yr holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd, y rhai a drigant yn yr holl ddaear; Aml fyddo heddwch i chwi. 2 Mi a welais yn dda fynegi yr arwyddion a’r rhyfeddodau a wnaeth y goruchaf Dduw â mi. 3 Mor fawr yw ei arwyddion ef! ac mor gedyrn yw ei ryfeddodau! ei deyrnas ef sydd deyrnas dragwyddol, a’i lywodraeth ef sydd o genhedlaeth i genhedlaeth.
4 Myfi Nebuchodonosor oeddwn esmwyth arnaf yn fy nhŷ, ac yn hoyw yn fy llys. 5 Gwelais freuddwyd yr hwn a’m hofnodd; meddyliau hefyd yn fy ngwely, a gweledigaethau fy mhen, a’m dychrynasant. 6 Am hynny y gosodwyd gorchymyn gennyf fi, ar ddwyn ger fy mron holl ddoethion Babilon, fel yr hysbysent i mi ddehongliad y breuddwyd. 7 Yna y dewiniaid, yr astronomyddion, y Caldeaid, a’r brudwyr, a ddaethant: a mi a ddywedais y breuddwyd o’u blaen hwynt; ond ei ddehongliad nid hysbysasant i mi.
8 Ond o’r diwedd daeth Daniel o’m blaen i, (yr hwn yw ei enw Beltesassar, yn ôl enw fy nuw i, yr hwn hefyd y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo,) a’m breuddwyd a draethais o’i flaen ef, gan ddywedyd, 9 Beltesassar, pennaeth y dewiniaid, oherwydd i mi wybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, ac nad oes un dirgelwch yn anodd i ti, dywed weledigaethau fy mreuddwyd yr hwn a welais, a’i ddehongliad. 10 A dyma weledigaethau fy mhen ar fy ngwely; Edrych yr oeddwn, ac wele bren yng nghanol y ddaear, a’i uchder yn fawr. 11 Mawr oedd y pren a chadarn, a’i uchder a gyrhaeddai hyd y nefoedd; yr ydoedd hefyd i’w weled hyd yn eithaf yr holl ddaear. 12 Ei ganghennau oedd deg, a’i ffrwyth yn aml, ac ymborth arno i bob peth: dano yr ymgysgodai bwystfilod y maes, ac adar y nefoedd a drigent yn ei ganghennau ef, a phob cnawd a fwytâi ohono. 13 Edrych yr oeddwn yng ngweledigaethau fy mhen ar fy ngwely, ac wele wyliedydd a sanct yn disgyn o’r nefoedd, 14 Yn llefain yn groch, ac yn dywedyd fel hyn, Torrwch y pren, ac ysgythrwch ei wrysg ef, ysgydwch ei ddail ef, a gwasgerwch ei ffrwyth: cilied y bwystfil oddi tano, a’r adar o’i ganghennau. 15 Er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes; gwlycher ef hefyd â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda’r bwystfilod yng ngwellt y ddaear. 16 Newidier ei galon ef o fod yn galon dyn, a rhodder iddo galon bwystfil: a chyfnewidier saith amser arno. 17 O ordinhad y gwyliedyddion y mae y peth hyn, a’r dymuniad wrth ymadrodd y rhai sanctaidd; fel y gwypo y rhai byw mai y Goruchaf a lywodraetha ym mrenhiniaeth dynion, ac a’i rhydd i’r neb y mynno efe, ac a esyd arni y gwaelaf o ddynion. 18 Dyma y breuddwyd a welais i Nebuchodonosor y brenin. Tithau, Beltesassar, dywed ei ddehongliad ef, oherwydd nas gall holl ddoethion fy nheyrnas hysbysu y dehongliad i mi: eithr ti a elli; am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.
19 Yna Daniel, yr hwn ydoedd ei enw Beltesassar, a synnodd dros un awr, a’i feddyliau a’i dychrynasant ef. Atebodd y brenin, a dywedodd, Beltesassar, na ddychryned y breuddwyd di, na’i ddehongliad. Atebodd Beltesassar, a dywedodd, Fy arglwydd, deued y breuddwyd i’th gaseion, a’i ddehongliad i’th elynion. 20 Y pren a welaist, yr hwn a dyfasai, ac a gryfhasai, ac a gyraeddasai ei uchder hyd y nefoedd, ac oedd i’w weled ar hyd yr holl ddaear; 21 A’i ddail yn deg, a’i ffrwyth yn aml, ac ymborth i bob peth ynddo; tan yr hwn y trigai bwystfilod y maes, ac y preswyliai adar y nefoedd yn ei ganghennau: 22 Ti, frenin, yw efe; tydi a dyfaist, ac a gryfheaist: canys dy fawredd a gynyddodd, ac a gyrhaeddodd hyd y nefoedd, a’th lywodraeth hyd eithaf y ddaear. 23 A lle y gwelodd y brenin wyliedydd a sanct yn disgyn o’r nefoedd, ac yn dywedyd, Torrwch y pren, a dinistriwch ef, er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes, a gwlycher ef â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda bwystfil y maes, hyd oni chyfnewidio saith amser arno ef: 24 Dyma y dehongliad, O frenin, a dyma ordinhad y Goruchaf, yr hwn sydd yn dyfod ar fy arglwydd frenin. 25 Canys gyrrant di oddi wrth ddynion, a chyda bwystfil y maes y bydd dy drigfa, â gwellt hefyd y’th borthant fel eidionau, ac a’th wlychant â gwlith y nefoedd, a saith amser a gyfnewidia arnat ti, hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i’r neb a fynno. 26 A lle y dywedasant am adael boncyff gwraidd y pren; dy frenhiniaeth fydd sicr i ti, wedi i ti wybod mai y nefoedd sydd yn llywodraethu. 27 Am hynny, frenin, bydded fodlon gennyt fy nghyngor, a thor ymaith dy bechodau trwy gyfiawnder, a’th anwireddau trwy drugarhau wrth drueiniaid, i edrych a fydd estyniad ar dy heddwch.
28 Daeth hyn oll ar Nebuchodonosor y brenin. 29 Ymhen deuddeng mis yr oedd efe yn rhodio yn llys brenhiniaeth Babilon. 30 Llefarodd y brenin, a dywedodd, Onid hon yw Babilon fawr, yr hon a adeiledais i yn frenhindy yng nghryfder fy nerth, ac er gogoniant fy mawrhydi? 31 A’r gair eto yng ngenau y brenin, syrthiodd llef o’r nefoedd, yn dywedyd, Wrthyt ti, frenin Nebuchodonosor, y dywedir, Aeth y frenhiniaeth oddi wrthyt. 32 A thi a yrrir oddi wrth ddynion, a’th drigfa fydd gyda bwystfilod y maes; â gwellt y’th borthant fel eidionau; a chyfnewidir saith amser arnat; hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i’r neb y mynno. 33 Yr awr honno y cyflawnwyd y gair ar Nebuchodonosor, ac y gyrrwyd ef oddi wrth ddynion, ac y porodd wellt fel eidionau, ac y gwlychwyd ei gorff ef gan wlith y nefoedd, hyd oni thyfodd ei flew ef fel plu eryrod, a’i ewinedd fel ewinedd adar. 34 Ac yn niwedd y dyddiau, myfi Nebuchodonosor a ddyrchefais fy llygaid tua’r nefoedd, a’m gwybodaeth a ddychwelodd ataf, a bendithiais y Goruchaf, a moliennais a gogoneddais yr hwn sydd yn byw byth, am fod ei lywodraeth ef yn llywodraeth dragwyddol, a’i frenhiniaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth. 35 A holl drigolion y ddaear a gyfrifir megis yn ddiddim: ac yn ôl ei ewyllys ei hun y mae yn gwneuthur â llu y nefoedd, ac â thrigolion y ddaear; ac nid oes a atalio ei law ef, neu a ddywedo wrtho, Beth yr wyt yn ei wneuthur? 36 Yn yr amser hwnnw y dychwelodd fy synnwyr ataf fi, a deuthum i ogoniant fy mrenhiniaeth, fy harddwch a’m hoywder a ddychwelodd ataf fi, a’m cynghoriaid a’m tywysogion a’m ceisiasant; felly y’m sicrhawyd yn fy nheyrnas, a chwanegwyd i mi fawredd rhagorol. 37 Yr awr hon myfi Nebuchodonosor ydwyf yn moliannu, ac yn mawrygu, ac yn gogoneddu Brenin y nefoedd, yr hwn y mae ei holl weithredoedd yn wirionedd, a’i lwybrau yn farn, ac a ddichon ddarostwng y rhai a rodiant mewn balchder.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.