Barnwyr 18
Beibl William Morgan
18 Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel: ac yn y dyddiau hynny llwyth y Daniaid oedd yn ceisio iddynt etifeddiaeth i drigo; canys ni syrthiasai iddynt hyd y dydd hwnnw etifeddiaeth ymysg llwythau Israel. 2 A meibion Dan a anfonasant o’u tylwyth bump o wŷr o’u bro, gwŷr grymus, o Sora, ac o Estaol, i ysbïo’r wlad, ac i’w chwilio; ac a ddywedasant wrthynt, Ewch, chwiliwch y wlad. A phan ddaethant i fynydd Effraim i dŷ Mica, hwy a letyasant yno. 3 Pan oeddynt hwy wrth dŷ Mica, hwy a adnabuant lais y gŵr ieuanc y Lefiad; ac a droesant yno, ac a ddywedasant wrtho, Pwy a’th ddug di yma? a pheth yr ydwyt ti yn ei wneuthur yma? a pheth sydd i ti yma? 4 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn ac fel hyn y gwnaeth Mica i mi; ac efe a’m cyflogodd i, a’i offeiriad ef ydwyf fi. 5 A hwy a ddywedasant wrtho ef, Ymgynghora, atolwg, â Duw, fel y gwypom a lwydda ein ffordd yr ydym ni yn rhodio arni. 6 A’r offeiriad a ddywedodd wrthynt, Ewch mewn heddwch: gerbron yr Arglwydd y mae eich ffordd chwi, yr hon a gerddwch.
7 Yna y pumwr a aethant ymaith, ac a ddaethant i Lais; ac a welsant y bobl oedd ynddi yn trigo mewn diogelwch, yn ôl arfer y Sidoniaid, yn llonydd ac yn ddiofal; ac nid oedd swyddwr yn y wlad, yr hwn a allai eu gyrru hwynt i gywilydd mewn dim: a phell oeddynt oddi wrth y Sidoniaid, ac heb negesau rhyngddynt a neb. 8 A hwy a ddaethant at eu brodyr i Sora ac Estaol. A’u brodyr a ddywedasant wrthynt, Beth a ddywedwch chwi? 9 Hwythau a ddywedasant, Cyfodwch, ac awn i fyny arnynt: canys gwelsom y wlad; ac wele, da iawn yw hi. Ai tewi yr ydych chwi? na ddiogwch fyned, i ddyfod i mewn i feddiannu’r wlad. 10 Pan eloch, chwi a ddeuwch at bobl ddiofal, a gwlad eang: canys Duw a’i rhoddodd hi yn eich llaw chwi: sef lle nid oes ynddo eisiau dim a’r y sydd ar y ddaear.
11 Ac fe aeth oddi yno, o dylwyth y Daniaid, o Sora ac o Estaol, chwe channwr, wedi ymwregysu ag arfau rhyfel. 12 A hwy a aethant i fyny, ac a wersyllasant yn Ciriath‐jearim, yn Jwda: am hynny y galwasant y fan honno Mahane-Dan, hyd y dydd hwn: wele, y mae o’r tu ôl i Ciriath‐jearim. 13 A hwy a aethant oddi yno i fynydd Effraim, ac a ddaethant hyd dŷ Mica.
14 A’r pumwr, y rhai a aethent i chwilio gwlad Lais, a lefarasant, ac a ddywedasant wrth eu brodyr, Oni wyddoch chwi fod yn y tai hyn effod a theraffim, a delw gerfiedig, a thoddedig? gan hynny ystyriwch yn awr beth a wneloch. 15 A hwy a droesant tuag yno; ac a ddaethant hyd dŷ y gŵr ieuanc y Lefiad, i dŷ Mica; ac a gyfarchasant well iddo. 16 A’r chwe channwr, y rhai oedd wedi eu gwregysu ag arfau rhyfel, oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, sef y rhai oedd o feibion Dan. 17 A’r pumwr, y rhai a aethent i chwilio’r wlad, a esgynasant, ac a aethant i mewn yno; ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig, a’r effod, a’r teraffim, a’r ddelw doddedig: a’r offeiriad oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, gyda’r chwe channwr oedd wedi ymwregysu ag arfau rhyfel. 18 A’r rhai hyn a aethant i dŷ Mica, ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig, yr effod, a’r teraffim, a’r ddelw doddedig. Yna yr offeiriad a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei wneuthur? 19 Hwythau a ddywedasant wrtho, Taw â sôn; gosod dy law ar dy safn, a thyred gyda ni, a bydd i ni yn dad ac yn offeiriad: ai gwell i ti fod yn offeiriad i dŷ un gŵr, na’th fod yn offeiriad i lwyth ac i deulu yn Israel? 20 A da fu gan galon yr offeiriad; ac efe a gymerth yr effod, a’r teraffim, a’r ddelw gerfiedig, ac a aeth ymysg y bobl. 21 A hwy a droesant, ac a aethant ymaith; ac a osodasant y plant, a’r anifeiliaid, a’r clud, o’u blaen.
22 A phan oeddynt hwy ennyd oddi wrth dŷ Mica, y gwŷr oedd yn y tai wrth dŷ Mica a ymgasglasant, ac a erlidiasant feibion Dan. 23 A hwy a waeddasant ar feibion Dan. Hwythau a droesant eu hwynebau, ac a ddywedasant wrth Mica, Beth a ddarfu i ti, pan wyt yn dyfod â’r fath fintai? 24 Yntau a ddywedodd, Fy nuwiau, y rhai a wneuthum i, a ddygasoch chwi ymaith, a’r offeiriad, ac a aethoch i ffordd: a pheth sydd gennyf fi mwyach? a pha beth yw hyn a ddywedwch wrthyf, Beth a ddarfu i ti? 25 A meibion Dan a ddywedasant wrtho, Na ad glywed dy lef yn ein mysg ni; rhag i wŷr dicllon ruthro arnat ti, a cholli ohonot dy einioes, ac einioes dy deulu. 26 A meibion Dan a aethant i’w ffordd. A phan welodd Mica eu bod hwy yn gryfach nag ef, efe a drodd, ac a ddychwelodd i’w dŷ. 27 A hwy a gymerasant y pethau a wnaethai Mica, a’r offeiriad oedd ganddo ef, ac a ddaethant i Lais, at bobl lonydd a diofal; ac a’u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a losgasant y ddinas â thân. 28 Ac nid oedd waredydd; canys pell oedd hi oddi wrth Sidon, ac nid oedd negesau rhyngddynt a neb; hefyd yr oedd hi yn y dyffryn oedd wrth Beth‐rehob: a hwy a adeiladasant ddinas, ac a drigasant ynddi. 29 A hwy a alwasant enw y ddinas Dan, yn ôl enw Dan eu tad, yr hwn a anesid i Israel: er hynny Lais oedd enw y ddinas ar y cyntaf.
30 A meibion Dan a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig: a Jonathan mab Gerson, mab Manasse, efe a’i feibion, fuant offeiriaid i lwyth Dan hyd ddydd caethgludiad y wlad. 31 A hwy a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig a wnaethai Mica, yr holl ddyddiau y bu tŷ Dduw yn Seilo.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.