Barnwyr 15
Beibl William Morgan
15 Ac wedi talm o ddyddiau, yn amser cynhaeaf y gwenith, Samson a aeth i ymweled â’i wraig â myn gafr; ac a ddywedodd, Mi a af i mewn at fy ngwraig i’r ystafell. Ond ni chaniatâi ei thad hi iddo ef fyned i mewn. 2 A’i thad a lefarodd, gan ddywedyd, Tybiaswn i ti ei chasáu hi; am hynny y rhoddais hi i’th gyfaill di: onid yw ei chwaer ieuangaf yn lanach na hi? bydded honno i ti, atolwg, yn ei lle hi.
3 A Samson a ddywedodd wrthynt, Difeiach ydwyf y waith hon na’r Philistiaid, er i mi wneuthur niwed iddynt. 4 A Samson a aeth ac a ddaliodd dri chant o lwynogod; ac a gymerth ffaglau, ac a drodd gynffon at gynffon, ac a osododd un ffagl rhwng dwy gynffon yn y canol. 5 Ac efe a gyneuodd dân yn y ffaglau, ac a’u gollyngodd hwynt i ydau y Philistiaid; ac a losgodd hyd yn oed y dasau, a’r ŷd ar ei droed, y gwinllannoedd hefyd, a’r olewydd.
6 Yna y Philistiaid a ddywedasant, Pwy a wnaeth hyn? Hwythau a ddywedasant, Samson daw y Timniad; am iddo ddwyn ei wraig ef, a’i rhoddi i’w gyfaill ef. A’r Philistiaid a aethant i fyny, ac a’i llosgasant hi a’i thad â thân.
7 A dywedodd Samson wrthynt, Er i chwi wneuthur fel hyn, eto mi a ymddialaf arnoch chwi; ac wedi hynny y peidiaf. 8 Ac efe a’u trawodd hwynt glun a morddwyd â lladdfa fawr: ac efe a aeth i waered, ac a arhosodd yng nghopa craig Etam.
9 Yna y Philistiaid a aethant i fyny, ac a wersyllasant yn Jwda, ac a ymdaenasant yn Lehi. 10 A gwŷr Jwda a ddywedasant, Paham y daethoch i fyny i’n herbyn ni? Dywedasant hwythau, I rwymo Samson y daethom i fyny, i wneuthur iddo ef fel y gwnaeth yntau i ninnau. 11 Yna tair mil o wŷr o Jwda a aethant i gopa craig Etam, ac a ddywedasant wrth Samson, Oni wyddost ti fod y Philistiaid yn arglwyddiaethu arnom ni? paham gan hynny y gwnaethost hyn â ni? Dywedodd yntau wrthynt, Fel y gwnaethant hwy i mi, felly y gwneuthum innau iddynt hwythau. 12 Dywedasant hwythau wrtho, I’th rwymo di y daethom i waered, ac i’th roddi yn llaw y Philistiaid. A Samson a ddywedodd wrthynt, Tyngwch wrthyf, na ruthrwch arnaf fi eich hunain. 13 Hwythau a’i hatebasant ef, gan ddywedyd, Na ruthrwn: eithr gan rwymo y’th rwymwn di, ac y’th roddwn yn eu llaw hwynt; ond ni’th laddwn di. A rhwymasant ef â dwy raff newydd, ac a’i dygasant ef i fyny o’r graig.
14 A phan ddaeth efe i Lehi, y Philistiaid a floeddiasant wrth gyfarfod ag ef. Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef; a’r rhaffau oedd am ei freichiau a aethant fel llin a losgasid yn tân, a’r rhwymau a ddatodasant oddi am ei ddwylo ef. 15 Ac efe a gafodd ên asyn ir; ac a estynnodd ei law, ac a’i cymerodd, ac a laddodd â hi fil o wŷr. 16 A Samson a ddywedodd, A gên asyn, pentwr ar bentwr; â gên asyn y lleddais fil o wŷr. 17 A phan orffennodd efe lefaru, yna efe a daflodd yr ên o’i law, ac a alwodd y lle hwnnw Ramath‐lehi.
18 Ac efe a sychedodd yn dost; ac a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Tydi a roddaist yn llaw dy was yr ymwared mawr yma: ac yn awr a fyddaf fi farw gan syched, a syrthio yn llaw y rhai dienwaededig? 19 Ond Duw a holltodd y cilddant oedd yn yr ên, fel y daeth allan ddwfr ohono; ac efe a yfodd, a’i ysbryd a ddychwelodd, ac efe a adfywiodd: am hynny y galwodd efe ei henw En‐haccore, yr hon sydd yn Lehi hyd y dydd hwn. 20 Ac efe a farnodd Israel yn nyddiau y Philistiaid ugain mlynedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.