Add parallel Print Page Options

19 Ac ar ôl y pethau hyn mi a glywais megis llef uchel gan dyrfa fawr yn y nef, yn dywedyd, Aleliwia; Iachawdwriaeth, a gogoniant, ac anrhydedd, a gallu, i’r Arglwydd ein Duw ni: Oblegid cywir a chyfiawn yw ei farnau ef: oblegid efe a farnodd y butain fawr, yr hon a lygrodd y ddaear â’i phuteindra, ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi. Ac eilwaith y dywedasant, Aleliwia. A’i mwg hi a gododd yn oes oesoedd. A syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a’r pedwar anifail i lawr, ac a addolasant Dduw, yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc; gan ddywedyd, Amen; Aleliwia. A llef a ddaeth allan o’r orseddfainc, yn dywedyd, Moliennwch ein Duw ni, ei holl weision ef, a’r rhai ydych yn ei ofni ef, bychain a mawrion hefyd. Ac mi a glywais megis llef tyrfa fawr, ac megis llef dyfroedd lawer, ac megis llef taranau cryfion, yn dywedyd, Aleliwia: oblegid teyrnasodd yr Arglwydd Dduw Hollalluog. Llawenychwn, a gorfoleddwn, a rhoddwn ogoniant iddo ef: oblegid daeth priodas yr Oen, a’i wraig ef a’i paratôdd ei hun. A chaniatawyd iddi gael ei gwisgo â lliain main glân a disglair: canys y lliain main ydyw cyfiawnder y saint. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna, Bendigedig yw’r rhai a elwir i swper neithior yr Oen. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwir eiriau Duw yw’r rhai hyn. 10 Ac mi a syrthiais wrth ei draed ef, i’w addoli ef. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwêl na wnelych hyn: cyd-was ydwyf i ti, ac i’th frodyr y rhai sydd ganddynt dystiolaeth Iesu. Addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu ydyw ysbryd y broffwydoliaeth. 11 Ac mi a welais y nef yn agored, ac wele farch gwyn; a’r hwn oedd yn eistedd arno a elwid Ffyddlon a Chywir, ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu ac yn rhyfela. 12 A’i lygaid oedd fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd coronau lawer: ac yr oedd ganddo enw yn ysgrifenedig, yr hwn ni wyddai neb ond efe ei hun: 13 Ac yr oedd wedi ei wisgo â gwisg wedi ei throchi mewn gwaed: a gelwir ei enw ef, Gair Duw. 14 A’r lluoedd oedd yn y nef a’i canlynasant ef ar feirch gwynion, wedi eu gwisgo â lliain main, gwyn, a glân. 15 Ac allan o’i enau ef yr oedd yn dyfod gleddyf llym, i daro’r cenhedloedd ag ef: ac efe a’u bugeilia hwynt â gwialen haearn: ac efe sydd yn sathru cerwyn win digofaint a llid Duw Hollalluog. 16 Ac y mae ganddo ar ei wisg, ac ar ei forddwyd, enw wedi ei ysgrifennu, BRENIN BRENHINOEDD, AC ARGLWYDD ARGLWYDDI. 17 Ac mi a welais angel yn sefyll yn yr haul; ac efe a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg trwy ganol y nef, Deuwch ac ymgesglwch ynghyd i swper y Duw mawr; 18 Fel y bwytaoch gig brenhinoedd, a chig pen-capteiniaid, a chig y cedyrn, a chig meirch, a’r rhai sydd yn eistedd arnynt, a chig holl ryddion a chaethion, a bychain a mawrion. 19 Ac mi a welais y bwystfil, a brenhinoedd y ddaear, a’u lluoedd, wedi ymgynnull ynghyd i wneuthur rhyfel yn erbyn yr hwn oedd yn eistedd ar y march, ac yn erbyn ei lu ef. 20 A daliwyd y bwystfil, a chydag ef y gau broffwyd, yr hwn a wnaeth wyrthiau ger ei fron ef, trwy y rhai y twyllodd efe y rhai a dderbyniasent nod y bwystfil, a’r rhai a addolasent ei ddelw ef. Yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i’r llyn tân yn llosgi â brwmstan. 21 A’r lleill a laddwyd â chleddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn oedd yn dyfod allan o’i enau ef: a’r holl adar a gawsant eu gwala o’u cig hwynt.

19 And after these things I heard a great voice of much people in heaven, saying, Alleluia; Salvation, and glory, and honour, and power, unto the Lord our God:

For true and righteous are his judgments: for he hath judged the great whore, which did corrupt the earth with her fornication, and hath avenged the blood of his servants at her hand.

And again they said, Alleluia And her smoke rose up for ever and ever.

And the four and twenty elders and the four beasts fell down and worshipped God that sat on the throne, saying, Amen; Alleluia.

And a voice came out of the throne, saying, Praise our God, all ye his servants, and ye that fear him, both small and great.

And I heard as it were the voice of a great multitude, and as the voice of many waters, and as the voice of mighty thunderings, saying, Alleluia: for the Lord God omnipotent reigneth.

Let us be glad and rejoice, and give honour to him: for the marriage of the Lamb is come, and his wife hath made herself ready.

And to her was granted that she should be arrayed in fine linen, clean and white: for the fine linen is the righteousness of saints.

And he saith unto me, Write, Blessed are they which are called unto the marriage supper of the Lamb. And he saith unto me, These are the true sayings of God.

10 And I fell at his feet to worship him. And he said unto me, See thou do it not: I am thy fellowservant, and of thy brethren that have the testimony of Jesus: worship God: for the testimony of Jesus is the spirit of prophecy.

11 And I saw heaven opened, and behold a white horse; and he that sat upon him was called Faithful and True, and in righteousness he doth judge and make war.

12 His eyes were as a flame of fire, and on his head were many crowns; and he had a name written, that no man knew, but he himself.

13 And he was clothed with a vesture dipped in blood: and his name is called The Word of God.

14 And the armies which were in heaven followed him upon white horses, clothed in fine linen, white and clean.

15 And out of his mouth goeth a sharp sword, that with it he should smite the nations: and he shall rule them with a rod of iron: and he treadeth the winepress of the fierceness and wrath of Almighty God.

16 And he hath on his vesture and on his thigh a name written, King Of Kings, And Lord Of Lords.

17 And I saw an angel standing in the sun; and he cried with a loud voice, saying to all the fowls that fly in the midst of heaven, Come and gather yourselves together unto the supper of the great God;

18 That ye may eat the flesh of kings, and the flesh of captains, and the flesh of mighty men, and the flesh of horses, and of them that sit on them, and the flesh of all men, both free and bond, both small and great.

19 And I saw the beast, and the kings of the earth, and their armies, gathered together to make war against him that sat on the horse, and against his army.

20 And the beast was taken, and with him the false prophet that wrought miracles before him, with which he deceived them that had received the mark of the beast, and them that worshipped his image. These both were cast alive into a lake of fire burning with brimstone.

21 And the remnant were slain with the sword of him that sat upon the horse, which sword proceeded out of his mouth: and all the fowls were filled with their flesh.