2 Corinthiaid 12
Beibl William Morgan
12 Ymffrostio yn ddiau nid yw fuddiol i mi: canys myfi a ddeuaf at weledigaethau a datguddiedigaethau’r Arglwydd. 2 Mi a adwaenwn ddyn yng Nghrist er ys rhagor i bedair blynedd ar ddeg, (pa un ai yn y corff, ni wn; ai allan o’r corff, ni wn i: Duw a ŵyr;) y cyfryw un a gipiwyd i fyny hyd y drydedd nef. 3 Ac mi a adwaenwn y cyfryw ddyn, (pa un ai yn y corff, ai allan o’r corff ni wn i: Duw a ŵyr;) 4 Ei gipio ef i fyny i baradwys, ac iddo glywed geiriau anhraethadwy, y rhai nid yw gyfreithlon i ddyn eu hadrodd. 5 Am y cyfryw un yr ymffrostiaf; eithr amdanaf fy hun nid ymffrostiaf, oddieithr yn fy ngwendid. 6 Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni byddaf ffôl; canys mi a ddywedaf y gwir: eithr yr wyf yn arbed, rhag i neb wneuthur cyfrif ohonof fi uwchlaw y mae yn gweled fy mod, neu yn ei glywed gennyf. 7 Ac fel na’m tra-dyrchafer gan odidowgrwydd y datguddiedigaethau, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan, i’m cernodio, fel na’m tra-dyrchefid. 8 Am y peth hwn mi a atolygais i’r Arglwydd deirgwaith, ar fod iddo ymadael â mi. 9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Digon i ti fy ngras i: canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid. Yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi yn hytrach yn fy ngwendid, fel y preswylio nerth Crist ynof fi. 10 Am hynny yr wyf yn fodlon mewn gwendid, mewn amarch, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist: canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn. 11 Mi a euthum yn ffôl wrth ymffrostio; chwychwi a’m gyrasoch: canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol gennych chwi: canys ni bûm i ddim yn ôl i’r apostolion pennaf, er nad ydwyf fi ddim. 12 Arwyddion apostol yn wir a weithredwyd yn eich plith chwi, mewn pob amynedd, mewn arwyddion, a rhyfeddodau, a gweithredoedd nerthol. 13 Canys beth yw’r hyn y buoch chwi yn ôl amdano, mwy na’r eglwysi eraill, oddieithr am na bûm i fy hun ormesol arnoch? maddeuwch i mi hyn o gam. 14 Wele, y drydedd waith yr wyf fi yn barod i ddyfod atoch; ac ni byddaf ormesol arnoch: canys nid ydwyf yn ceisio yr eiddoch chwi, ond chwychwi: canys ni ddylai’r plant gasglu trysor i’r rhieni, ond y rhieni i’r plant. 15 A myfi yn ewyllysgar iawn a dreuliaf, ac a ymdreuliaf, dros eich eneidiau chwi, er fy mod yn eich caru yn helaethach, ac yn cael fy ngharu yn brinnach. 16 Eithr bid, ni phwysais i arnoch: ond, gan fod yn gyfrwys, mi a’ch deliais chwi trwy ddichell. 17 A wneuthum i elw ohonoch chwi trwy neb o’r rhai a ddanfonais atoch? 18 Mi a ddeisyfais ar Titus, a chydag ef mi a anfonais frawd. A elwodd Titus ddim arnoch? onid yn yr un ysbryd y rhodiasom? onid yn yr un llwybrau? 19 Drachefn, a ydych chwi yn tybied mai ymesgusodi yr ydym wrthych? gerbron Duw yng Nghrist yr ydym yn llefaru; a phob peth, anwylyd, er adeiladaeth i chwi. 20 Canys ofni yr wyf, rhag, pan ddelwyf, na’ch caffwyf yn gyfryw rai ag a fynnwn, a’m cael innau i chwithau yn gyfryw ag nis mynnech: rhag bod cynhennau, cenfigennau, llidiau, ymrysonau, goganau, hustyngau, ymchwyddiadau, anghydfyddiaethau: 21 Rhag pan ddelwyf drachefn, fod i’m Duw fy narostwng yn eich plith, ac i mi ddwyn galar dros lawer, y rhai a bechasant eisoes, ac nid edifarhasant am yr aflendid, a’r godineb, a’r anlladrwydd a wnaethant.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.