2 Brenhinoedd 8
Beibl William Morgan
8 Yna Eliseus a lefarodd wrth y wraig y bywhasai efe ei mab, gan ddywedyd, Cyfod, a dos, ti a’th dylwyth, ac ymdeithia lle y gellych ymdeithio: canys yr Arglwydd a alwodd am newyn, a hwnnw a ddaw ar y wlad saith mlynedd. 2 A’r wraig a gyfododd, ac a wnaeth yn ôl gair gŵr Duw: a hi a aeth, hi a’i thylwyth, ac a ymdeithiodd yng ngwlad y Philistiaid saith mlynedd. 3 Ac ymhen y saith mlynedd, y wraig a ddychwelodd o wlad y Philistiaid: a hi a aeth i weiddi ar y brenin am ei thŷ, ac am ei thir. 4 A’r brenin oedd yn ymddiddan â Gehasi gwas gŵr Duw, gan ddywedyd, Adrodd i mi, atolwg, yr holl bethau mawr a wnaeth Eliseus. 5 Ac fel yr oedd efe yn mynegi i’r brenin y modd y bywhasai efe y marw, yna wele y wraig y bywhasai efe ei mab yn gweiddi ar y brenin am ei thŷ, ac am ei thir. A Gehasi a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, dyma’r wraig, a dyma ei mab yr hwn a ddarfu i Eliseus ei fywhau. 6 A’r brenin a ofynnodd i’r wraig; a hithau a fynegodd iddo ef. A’r brenin a roddodd iddi ryw ystafellydd, gan ddywedyd, Dod drachefn yr hyn oll oedd eiddi hi, a holl gnwd y maes, o’r dydd y gadawodd hi y wlad hyd y pryd hwn.
7 A daeth Eliseus i Damascus: a Benhadad brenin Syria oedd glaf; a mynegwyd iddo ef, gan ddywedyd, Daeth gŵr Duw yma. 8 A’r brenin a ddywedodd wrth Hasael, Cymer anrheg yn dy law, a dos i gyfarfod â gŵr Duw; ac ymofyn â’r Arglwydd trwyddo ef, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn? 9 Felly Hasael a aeth i’w gyfarfod ef, ac a gymerth anrheg yn ei law, a phob peth a’r a oedd dda o Damascus, sef llwyth deugain o gamelod; ac a ddaeth, ac a safodd o’i flaen ef, ac a ddywedodd, Benhadad brenin Syria dy fab a’m hanfonodd atat, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn? 10 Ac Eliseus a ddywedodd wrtho, Dos, a dywed wrtho, Diau y gelli fyw: eto yr Arglwydd a ddangosodd i mi y bydd efe marw yn ddiau. 11 Ac efe a osododd ei wyneb, ac a ddaliodd sylw arno, nes cywilyddio ohono ef: a gŵr Duw a wylodd. 12 A Hasael a ddywedodd, Paham y mae fy arglwydd yn wylo? Dywedodd yntau, Am fy mod yn gwybod y drwg a wnei di i feibion Israel: eu hamddiffynfaoedd hwynt a losgi di â thân, a’u gwŷr ieuainc a leddi â’r cleddyf, a’u plant a bwyi, a’u gwragedd beichiogion a rwygi. 13 A Hasael a ddywedodd, Pa beth! ai ci yw dy was, fel y gwnelai efe y mawr beth hyn? Ac Eliseus a ddywedodd, Yr Arglwydd a ddangosodd i mi y byddi di yn frenin ar Syria. 14 Felly efe a aeth ymaith oddi wrth Eliseus, ac a ddaeth at ei arglwydd; yr hwn a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd Eliseus wrthyt ti? Ac efe a atebodd, Efe a ddywedodd wrthyf, y byddit ti byw yn ddiau. 15 A thrannoeth efe a gymerth wrthban, ac a’i gwlychodd mewn dwfr, ac a’i lledodd ar ei wyneb ef, fel y bu efe farw: a Hasael a deyrnasodd yn ei le ef.
16 Ac yn y bumed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel, a Jehosaffat yn frenin yn Jwda, y dechreuodd Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda deyrnasu. 17 Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu; ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 18 Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, fel y gwnâi tŷ Ahab: canys merch Ahab oedd yn wraig iddo: felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd. 19 Ond ni fynnai yr Arglwydd ddifetha Jwda, er mwyn Dafydd ei was; megis yr addawsai efe, y rhoddai iddo oleuni, ac i’w feibion yn dragywydd.
20 Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hunain. 21 A Joram a aeth trosodd i Sair, a’r holl gerbydau gydag ef; ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau: a’r bobl a ffodd i’w pebyll. 22 Er hynny Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn. Yna y gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw. 23 A’r rhan arall o hanes Joram, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 24 A Joram a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
25 Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel yr aeth Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda yn frenin. 26 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Ahaseia pan aeth efe yn frenin; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Athaleia, merch Omri brenin Israel. 27 Ac efe a rodiodd yn ffordd tŷ Ahab, ac a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel tŷ Ahab: canys daw tŷ Ahab ydoedd efe.
28 Ac efe a aeth gyda Joram mab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i Ramoth‐Gilead; a’r Syriaid a drawsant Joram. 29 A Joram y brenin a ddychwelodd i Jesreel i ymiacháu o’r briwiau a roesai y Syriaid iddo ef yn Rama, wrth ymladd ohono ef yn erbyn Hasael brenin Syria: ac Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Joram mab Ahab yn Jesreel; canys claf ydoedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.