2 Brenhinoedd 18
Beibl William Morgan
18 Ac yn y drydedd flwyddyn i Hosea mab Ela brenin Israel, y teyrnasodd Heseceia mab Ahas brenin Jwda. 2 Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Abi, merch Sachareia. 3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Dafydd ei dad ef.
4 Efe a dynnodd ymaith yr uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni, ac a faluriodd y sarff bres a wnaethai Moses; canys hyd y dyddiau hynny yr oedd meibion Israel yn arogldarthu iddi hi: ac efe a’i galwodd hi Nehustan. 5 Yn Arglwydd Dduw Israel yr ymddiriedodd efe, ac ar ei ôl ef ni bu ei fath ef ymhlith holl frenhinoedd Jwda, nac ymysg y rhai a fuasai o’i flaen ef. 6 Canys efe a lynodd wrth yr Arglwydd, ni throdd efe oddi ar ei ôl ef, eithr efe a gadwodd ei orchmynion ef, y rhai a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 7 A’r Arglwydd fu gydag ef; i ba le bynnag yr aeth, efe a lwyddodd: ac efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria, ac nis gwasanaethodd ef. 8 Efe a drawodd y Philistiaid hyd Gasa a’i therfynau, o dŵr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog.
9 Ac yn y bedwaredd flwyddyn i’r brenin Heseceia, honno oedd y seithfed flwyddyn i Hosea mab Ela brenin Israel, y daeth Salmaneser brenin Asyria i fyny yn erbyn Samaria, ac a warchaeodd arni hi. 10 Ac ymhen y tair blynedd yr enillwyd hi; yn y chweched flwyddyn i Heseceia, honno oedd y nawfed flwyddyn i Hosea brenin Israel, yr enillwyd Samaria. 11 A brenin Asyria a gaethgludodd Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid: 12 Am na wrandawsent ar lais yr Arglwydd eu Duw, eithr troseddu ei gyfamod ef, a’r hyn oll a orchmynasai Moses gwas yr Arglwydd, ac na wrandawent arnynt, ac nas gwnaent hwynt.
13 Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i’r brenin Heseceia, y daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl ddinasoedd caerog Jwda, ac a’u henillodd hwynt. 14 A Heseceia brenin Jwda a anfonodd at frenin Asyria i Lachis, gan ddywedyd, Pechais, dychwel oddi wrthyf: dygaf yr hyn a roddych arnaf. A brenin Asyria a osododd ar Heseceia brenin Jwda, dri chant o dalentau arian, a deg ar hugain o dalentau aur. 15 A Heseceia a roddodd iddo yr holl arian a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhrysorau tŷ y brenin. 16 Yn yr amser hwnnw y torrodd Heseceia yr aur oddi ar ddrysau teml yr Arglwydd, ac oddi ar y colofnau a orchuddiasai Heseceia brenin Jwda, ac a’u rhoddes hwynt i frenin Asyria.
17 A brenin Asyria a anfonodd Tartan, a Rabsaris, a Rabsace, o Lachis, at y brenin Heseceia, â llu dirfawr yn erbyn Jerwsalem. A hwy a aethant i fyny, ac a ddaethant i Jerwsalem. Ac wedi eu dyfod i fyny, hwy a ddaethant ac a safasant wrth bistyll y llyn uchaf, yr hwn sydd ym mhriffordd maes y pannwr. 18 Ac wedi iddynt alw ar y brenin, daeth allan atynt hwy Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur. 19 A Rabsace a ddywedodd wrthynt hwy, Dywedwch yn awr wrth Heseceia, Fel hyn y dywedodd y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr wyt yn ymddiried ynddo? 20 Dywedyd yr ydwyt, (ond nid ydynt ond geiriau ofer,) Y mae gennyf gyngor a nerth i ryfel. Ar bwy y mae dy hyder, pan wrthryfelaist i’m herbyn i? 21 Wele yn awr, y mae dy hyder ar y ffon gorsen ddrylliedig hon, ar yr Aifft, yr hon pwy bynnag a bwyso arni, hi a â i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi hi: felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno ef. 22 Ac os dywedwch wrthyf, Yn yr Arglwydd ein Duw yr ydym ni yn ymddiried; onid efe yw yr hwn y tynnodd Heseceia ymaith ei uchelfeydd, a’i allorau, ac y dywedodd wrth Jwda ac wrth Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr ymgrymwch chwi yn Jerwsalem? 23 Yn awr gan hynny dod wystlon, atolwg, i’m harglwydd, brenin Asyria, a rhoddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt hwy. 24 A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m harglwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau a gwŷr meirch? 25 Ai heb yr Arglwydd y deuthum i fyny yn erbyn y lle hwn, i’w ddinistrio ef? Yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi. 26 Yna y dywedodd Eliacim mab Hilceia, a Sebna, a Joa, wrth Rabsace, Llefara, atolwg, wrth dy weision yn Syriaeg, canys yr ydym ni yn ei deall hi; ac nac ymddiddan â ni yn iaith yr Iddewon, lle y clywo y bobl sydd ar y mur. 27 Ond Rabsace a ddywedodd wrthynt, Ai at dy feistr di, ac atat tithau, yr anfonodd fy meistr fi, i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur, fel y bwytaont eu tom eu hun, ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi, yr anfonodd fi? 28 Felly Rabsace a safodd, ac a waeddodd â llef uchel yn iaith yr Iddewon, llefarodd hefyd, a dywedodd, Gwrandewch air y brenin mawr, brenin Asyria. 29 Fel hyn y dywedodd y brenin, Na thwylled Heseceia chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi o’m llaw i. 30 Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr Arglwydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd gan waredu a’n gwared ni, ac ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria. 31 Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder â mi, a deuwch allan ataf fi, ac yna bwytewch bob un o’i winwydden ei hun, a phob un o’i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun: 32 Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd, gwlad olew olewydd a mêl, fel y byddoch fyw, ac na byddoch feirw: ac na wrandewch ar Heseceia, pan hudo efe chwi, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a’n gwared ni. 33 A lwyr waredodd yr un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria? 34 Mae duwiau Hamath ac Arpad? mae duwiau Seffarfaim, Hena, ac Ifa? a achubasant hwy Samaria o’m llaw i? 35 Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd a waredasant eu gwlad o’m llaw i, fel y gwaredai yr Arglwydd Jerwsalem o’m llaw i? 36 Eithr y bobl a dawsant, ac nid atebasant air iddo: canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, Nac atebwch ef. 37 Yna y daeth Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur, at Heseceia, a’u dillad yn rhwygedig, ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.