1 Samuel 14
Beibl William Morgan
14 A bu ddyddgwaith i Jonathan mab Saul ddywedyd wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r Philistiaid, yr hon sydd o’r tu hwnt: ond ni fynegodd efe i’w dad. 2 A Saul a arhosodd yng nghwr Gibea, dan bren pomgranad, yr hwn oedd ym Migron: a’r bobl oedd gydag ef oedd ynghylch chwe channwr; 3 Ac Ahia mab Ahitub, brawd Ichabod, mab Phinees, mab Eli, offeiriad yr Arglwydd yn Seilo, oedd yn gwisgo effod. Ac ni wyddai y bobl i Jonathan fyned ymaith.
4 A rhwng y bylchau, lle ceisiodd Jonathan fyned drosodd at amddiffynfa’r Philistiaid, yr oedd craig serth o’r naill du i’r bwlch, a chraig serth o’r tu arall i’r bwlch; ac enw y naill oedd Boses, ac enw y llall Sene. 5 A safiad y naill oedd oddi wrth y gogledd ar gyfer Michmas, a’r llall oddi wrth y deau ar gyfer Gibea. 6 A dywedodd Jonathan wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r rhai dienwaededig hyn; nid hwyrach y gweithia yr Arglwydd gyda ni: canys nid oes rwystr i’r Arglwydd waredu trwy lawer neu trwy ychydig. 7 A’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ef a ddywedodd wrtho, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon: cerdda rhagot; wele fi gyda thi fel y mynno dy galon. 8 Yna y dywedodd Jonathan, Wele, ni a awn trosodd at y gwŷr hyn, ac a ymddangoswn iddynt. 9 Os dywedant fel hyn wrthym, Arhoswch nes i ni ddyfod atoch chwi; yna y safwn yn ein lle, ac nid awn i fyny atynt hwy. 10 Ond os fel hyn y dywedant, Deuwch i fyny atom ni; yna yr awn i fyny: canys yr Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn ein llaw ni; a hyn fydd yn argoel i ni. 11 A hwy a ymddangosasant ill dau i amddiffynfa’r Philistiaid. A’r Philistiaid a ddywedasant, Wele yr Hebreaid yn dyfod allan o’r tyllau y llechasant ynddynt. 12 A gwŷr yr amddiffynfa a atebasant Jonathan, a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, ac a ddywedasant, Deuwch i fyny atom ni, ac ni a ddangoswn beth i chwi. A dywedodd Jonathan wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau, Tyred i fyny ar fy ôl: canys yr Arglwydd a’u rhoddes hwynt yn llaw Israel. 13 A Jonathan a ddringodd i fyny ar ei ddwylo, ac ar ei draed; a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ar ei ôl. A hwy a syrthiasant o flaen Jonathan: ei yswain hefyd oedd yn lladd ar ei ôl ef. 14 A’r lladdfa gyntaf honno a wnaeth Jonathan a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, oedd ynghylch ugeinwr, megis o fewn ynghylch hanner cyfer dau ych o dir. 15 A bu fraw yn y gwersyll, yn y maes, ac ymysg yr holl bobl: yr amddiffynfa a’r anrheithwyr hwythau hefyd a ddychrynasant: y ddaear hefyd a grynodd; a bu dychryn Duw. 16 A gwylwyr Saul yn Gibea Benjamin a edrychasant; ac wele y lliaws yn ymwasgaru, ac yn myned dan ymguro. 17 Yna y dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef, Cyfrifwch yn awr, ac edrychwch pwy a aeth oddi wrthym ni. A phan gyfrifasant, wele, Jonathan a chludydd ei arfau nid oeddynt yno. 18 A Saul a ddywedodd wrth Ahia, Dwg yma arch Duw. (Canys yr oedd arch Duw y pryd hynny gyda meibion Israel.)
19 A thra yr ydoedd Saul yn ymddiddan â’r offeiriad, y terfysg, yr hwn oedd yng ngwersyll y Philistiaid, gan fyned a aeth, ac a anghwanegodd. A Saul a ddywedodd wrth yr offeiriad, Tyn atat dy law. 20 A Saul a’r holl bobl oedd gydag ef a ymgynullasant, ac a ddaethant i’r rhyfel: ac wele gleddyf pob un yn erbyn ei gyfnesaf; a dinistr mawr iawn oedd yno. 21 Yr Hebreaid hefyd, y rhai oedd gyda’r Philistiaid o’r blaen, y rhai a aethant i fyny gyda hwynt i’r gwersyll o’r wlad oddi amgylch, hwythau hefyd a droesant i fod gyda’r Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan. 22 A holl wŷr Israel, y rhai oedd yn llechu ym mynydd Effraim, a glywsant ffoi o’r Philistiaid; hwythau hefyd a’u herlidiasant hwy o’u hôl yn y rhyfel. 23 Felly yr achubodd yr Arglwydd Israel y dydd hwnnw; a’r ymladd a aeth drosodd i Beth-afen.
24 A gwŷr Israel oedd gyfyng arnynt y dydd hwnnw: oherwydd tyngedasai Saul y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd hyd yr hwyr, fel y dialwyf ar fy ngelynion: Felly nid archwaethodd yr un o’r bobl ddim bwyd. 25 A’r rhai o’r holl wlad a ddaethant i goed, lle yr oedd mêl ar hyd wyneb y tir. 26 A phan ddaeth y bobl i’r coed, wele y mêl yn diferu; eto ni chododd un ei law at ei enau: canys ofnodd y bobl y llw. 27 Ond Jonathan ni chlywsai pan dyngedasai ei dad ef y bobl: am hynny efe a estynnodd flaen y wialen oedd yn ei law, ac a’i gwlychodd yn nil y mêl, ac a drodd ei law at ei enau; a’i lygaid a oleuasant. 28 Yna un o’r bobl a atebodd, ac a ddywedodd, Gan dynghedu y tynghedodd dy dad y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd heddiw. A’r bobl oedd luddedig. 29 Yna y dywedodd Jonathan, Fy nhad a flinodd y wlad. Gwelwch yn awr fel y goleuodd fy llygaid i, oherwydd i mi archwaethu ychydig o’r mêl hwn: 30 Pa faint mwy, pe bwytasai y bobl yn ddiwarafun heddiw o anrhaith eu gelynion, yr hon a gawsant hwy? oni buasai yn awr fwy y lladdfa ymysg y Philistiaid? 31 A hwy a drawsant y Philistiaid y dydd hwnnw o Michmas hyd Ajalon: a’r bobl oedd ddiffygiol iawn. 32 A’r bobl a ruthrodd at yr anrhaith, ac a gymerasant ddefaid, a gwartheg, a lloi, ac a’u lladdasant ar y ddaear: a’r bobl a’u bwytaodd gyda’r gwaed.
33 Yna y mynegasant hwy i Saul, gan ddywedyd, Wele, y bobl sydd yn pechu yn erbyn yr Arglwydd, gan fwyta ynghyd â’r gwaed. Ac efe a ddywedodd, Troseddasoch: treiglwch ataf fi heddiw faen mawr. 34 Dywedodd Saul hefyd, Ymwasgerwch ymysg y bobl, a dywedwch wrthynt, Dygwch ataf fi bob un ei ych, a phob un ei lwdn dafad, a lleddwch hwynt yma, a bwytewch; ac na phechwch yn erbyn yr Arglwydd, gan fwyta ynghyd â’r gwaed. A’r bobl oll a ddygasant bob un ei ych yn ei law y noswaith honno, ac a’u lladdasant yno. 35 A Saul a adeiladodd allor i’r Arglwydd. Hon oedd yr allor gyntaf a adeiladodd efe i’r Arglwydd.
36 A dywedodd Saul, Awn i waered ar ôl y Philistiaid liw nos, ac anrheithiwn hwynt hyd oni oleuo y bore, ac na adawn un ohonynt. Hwythau a ddywedasant, Gwna yr hyn oll fyddo da yn dy olwg. Yna y dywedodd yr offeiriad, Nesawn yma at Dduw. 37 Ac ymofynnodd Saul â Duw, A af fi i waered ar ôl y Philistiaid? a roddi di hwynt yn llaw Israel? Ond nid atebodd efe ef y dydd hwnnw. 38 A dywedodd Saul, Dyneswch yma holl benaethiaid y bobl: mynnwch wybod hefyd, ac edrychwch ym mhwy y bu y pechod hwn heddiw. 39 Canys, megis mai byw yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwaredu Israel, pe byddai hyn yn Jonathan fy mab, diau y llwyr roddir ef i farwolaeth. Ac nid atebodd neb o’r holl bobl ef. 40 Yna y dywedodd efe wrth holl Israel, Chwi a fyddwch ar y naill du; minnau hefyd a Jonathan fy mab fyddwn ar y tu arall. A dywedodd y bobl wrth Saul, Gwna a fyddo da yn dy olwg. 41 Am hynny y dywedodd Saul wrth Arglwydd Dduw Israel, Dod oleufynag. A daliwyd Jonathan a Saul: ond y bobl a ddihangodd. 42 Dywedodd Saul hefyd, Bwriwch goelbren rhyngof fi a Jonathan fy mab. A daliwyd Jonathan. 43 Yna y dywedodd Saul wrth Jonathan, Mynega i mi beth a wnaethost. A Jonathan a fynegodd iddo, ac a ddywedodd, Gan archwaethu yr archwaethais ychydig o fêl ar flaen y wialen oedd yn fy llaw; ac wele, a fyddaf fi farw? 44 Dywedodd Saul hefyd, Felly gwneled Duw i mi, ac felly chwaneged, onid gan farw y byddi di farw, Jonathan. 45 A dywedodd y bobl wrth Saul, A leddir Jonathan, yr hwn a wnaeth yr ymwared mawr hyn yn Israel? Na ato Duw: fel mai byw yr Arglwydd, ni syrth un o wallt ei ben ef i’r ddaear; canys gyda Duw y gweithiodd efe heddiw. A’r bobl a waredasant Jonathan, fel na laddwyd ef. 46 Yna Saul a aeth i fyny oddi ar ôl y Philistiaid: a’r Philistiaid a aethant i’w lle eu hun.
47 Felly y cymerodd Saul y frenhiniaeth ar Israel; ac a ymladdodd yn erbyn ei holl elynion oddi amgylch, yn erbyn Moab, ac yn erbyn meibion Ammon, ac yn erbyn Edom, ac yn erbyn brenhinoedd Soba, ac yn erbyn y Philistiaid: ac yn erbyn pwy bynnag yr wynebodd, efe a orchfygodd. 48 Cynullodd lu hefyd, a thrawodd Amalec; ac a waredodd Israel o law ei anrheithwyr. 49 A meibion Saul oedd Jonathan, ac Issui, a Malci-sua. Dyma enwau ei ddwy ferch ef: enw yr hynaf oedd Merab, ac enw yr ieuangaf Michal. 50 Ac enw gwraig Saul oedd Ahinoam merch Ahimaas: ac enw tywysog ei filwriaeth ef oedd Abner mab Ner, ewythr frawd ei dad i Saul. 51 Cis hefyd oedd dad Saul; a Ner tad Abner oedd fab Abiel. 52 A bu ryfel caled yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Saul: a phan welai Saul ŵr glew a nerthol, efe a’i cymerai ato ei hun.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.