2 Corinthiaid 3
Beibl William Morgan
3 Ai dechrau yr ydym drachefn ein canmol ein hunain? ai rhaid i ni, megis i rai, wrth lythyrau canmoliaeth atoch chwi, neu rai canmoliaeth oddi wrthych chwi? 2 Ein llythyr ni ydych chwi yn ysgrifenedig yn ein calonnau, yr hwn a ddeellir ac a ddarllenir gan bob dyn: 3 Gan fod yn eglur mai llythyr Crist ydych, wedi ei weini gennym ni, wedi ei ysgrifennu nid ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw; nid mewn llechau cerrig, eithr mewn llechau cnawdol y galon. 4 A chyfryw hyder sydd gennym trwy Grist ar Dduw: 5 Nid oherwydd ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain i feddwl dim megis ohonom ein hunain; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw; 6 Yr hwn hefyd a’n gwnaeth ni yn weinidogion cymwys y testament newydd; nid i’r llythyren, ond i’r ysbryd: canys y mae’r llythyren yn lladd, ond yr ysbryd sydd yn bywhau. 7 Ac os bu gweinidogaeth angau, mewn llythrennau wedi eu hargraffu ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allai plant yr Israel edrych yn graff ar wyneb Moses, gan ogoniant ei wynepryd, yr hwn ogoniant a ddilewyd; 8 Pa fodd yn hytrach na bydd gweinidogaeth yr Ysbryd mewn gogoniant? 9 Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth yn ogoniant, mwy o lawer y mae gweinidogaeth cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant. 10 Canys hefyd ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd yn y rhan hon, oherwydd y gogoniant tra rhagorol. 11 Oblegid os bu yr hyn a ddileid yn ogoneddus, mwy o lawer y bydd yr hyn sydd yn aros yn ogoneddus. 12 Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder mawr: 13 Ac nid megis y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb, fel nad edrychai plant Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddileid. 14 Eithr dallwyd eu meddyliau hwynt: canys hyd y dydd heddiw y mae’r un gorchudd, wrth ddarllen yn yr hen destament, yn aros heb ei ddatguddio; yr hwn yng Nghrist a ddileir. 15 Eithr hyd y dydd heddiw, pan ddarllenir Moses, y mae’r gorchudd ar eu calon hwynt. 16 Ond pan ymchwelo at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd. 17 Eithr yr Arglwydd yw’r Ysbryd: a lle mae Ysbryd yr Arglwydd, yno y mae rhyddid. 18 Eithr nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych, a newidir i’r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.