Salmau 56
Beibl William Morgan
I’r Pencerdd ar Jonath‐Elem‐Rechocim, Michtam Dafydd, pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath.
56 Trugarha wrthyf, O Dduw: canys dyn a’m llyncai: beunydd, gan ymladd, y’m gorthryma. 2 Beunydd y’m llyncai fy ngelynion: canys llawer sydd yn rhyfela i’m herbyn, O Dduw Goruchaf. 3 Y dydd yr ofnwyf, mi a ymddiriedaf ynot ti. 4 Yn Nuw y clodforaf ei air, yn Nuw y gobeithiaf; nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi. 5 Beunydd y camgymerant fy ngeiriau: eu holl feddyliau sydd i’m herbyn er drwg. 6 Hwy a ymgasglant, a lechant, ac a wyliant fy nghamre, pan ddisgwyliant am fy enaid. 7 A ddihangant hwy trwy anwiredd? disgyn y bobloedd hyn, O Dduw, yn dy lidiowgrwydd. 8 Ti a gyfrifaist fy symudiadau: dod fy nagrau yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di? 9 Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol: hyn a wn; am fod Duw gyda mi. 10 Yn Nuw y moliannaf ei air: yn yr Arglwydd y moliannaf ei air. 11 Yn Nuw yr ymddiriedais: nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi. 12 Arnaf fi, O Dduw, y mae dy addunedau: talaf i ti foliant. 13 Canys gwaredaist fy enaid rhag angau: oni waredi fy nhraed rhag syrthio, fel y rhodiwyf gerbron Duw yng ngoleuni y rhai byw?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.